top of page

Hanes Iaith y Blodau

 

Mae defnyddio blodau i gyfleu neges, trwy roi ystyr ac arwyddocâd i bob math o flodyn, yn dyddio’n ôl rai cannoedd o flynyddoedd. Roedd eu hystyr a’u harwyddocâd yn dod o chwedlau, straeon, cyd-destunau diwylliannol, arferion meddygol ac amrywiol symbolau. Ond ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac yn ystod Oes Fictoria, y daeth y dull mynegiant arbennig hwn yn boblogaidd.

​

Yn 1763, yn dilyn ei marwolaeth, cyhoeddwyd llythyrau Lady Mary Wortley. Roedd Lady Mary wedi anfon llythyrau adref o Gaergystenin, lle’r oedd yn byw gyda’i gŵr, a’r llythyrau hynny’n sôn am arferion diwylliannol Twrci, yn benodol y rhai ymhlith menywod. Un o’r arferion hynny oedd ‘Iaith y Blodau’. Yr oedd diddordeb mawr ganddi yn hyn, a dyna pam y dechreuodd anfon llythyrau adref i Loegr oedd yn esbonio sut oedd yr ‘iaith’ unigryw hon yn cael ei defnyddio. ’Roedd yr ‘iaith’ wedi bod yn cael ei ddefnyddio yn Nhwrci ers y bymthegfed ganrif a chyfnod yr Ymerodraeth Otomanaidd. ’Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ferched harem (gwragedd a gordderchwragedd) y Swltan gan fod y mwyafrif yn anllythrennog. Yn ystod y cyfnod hwn ’roedd yr ‘iaith’ yn cael ei galw’n ‘Selam’.

​

Un o’r prif resymau pam y daeth yr ‘iaith’ hon yn boblogaidd ymysg y dosbarth uwch yn Oes Fictoria oedd oherwydd fod disgwyliadau ymddygiad penodol pan yn cymdeithasu. Yn ystod y cyfnod hwn, credai pobl pe byddai merched yn dangos emosiwn, boed hwnnw’n lawenydd neu’n dristwch, ei fod yn arwydd o wendid neu ddiffyg addysg. Nid yn unig hynny, ’roedd y dynion yn cael eu hannog i beidio a dangos eu cariad tuag at eu cariadon nac eraill yr oeddent yn dymuno rhannu eu teimladau â hwy.

​

O ganlyniad, daeth ‘iaith y blodau’ yn boblogaidd iawn gyda rhai yn cyfeirio ati fel ‘iaith ddirgel y blodau, a chan fod gan y dosbarth uwch erddi eang oedd yn tyfu pob math o flodau, yr oeddent yn eu defnyddio i lunio ystod eang o negeseuon cyfrinachol oedd yn cael eu danfon trwy’r tusw.

​

Yn ogystal â chynnwys neges o fewn y tusw, ’roedd ffyrdd penodol o’u rhoi a’u derbyn. Dyma rai enghreifftiau:

​

  • Os oedd rhywun yn hoff o rywun arall, byddai’n anfon un rhosyn coch, ond os nad oedd y derbynnydd yn teimlo'r un hoffter yn ôl, byddai’n ymateb gyda phenigan (carnation, Dianthus Caryophyllus) melyn.

​

  • Os oedd rhywun yn rhoi rhosyn heb ddrain, byddai’n dweud, “syrthiais mewn cariad ar yr edrychiad cyntaf”.

​

  • Os oedd rhywun eisiau rhoi ateb cyflym i neges a dderbyniwyd mewn blodau, er mwyn dweud, “ie”, ’roedd yn rhaid rhoi'r blodau yn ôl trwy ddefnyddio'r llaw dde. ’Roedd defnyddio'r llaw chwith yn dweud, “na”.

​

  • Pan yn derbyn blodau yn ôl wedi eu troi â’u pennau at i lawr, ’roedd hynny’n cyfleu'r gwrthwyneb i’r neges oedd yn y blodau.

​

  • Os oedd y derbynnydd yn rhoi y tusw yn agos i’w chalon, yr oedd yn golygu ei bod yn teimlo yr un peth a’r rhoddwr, ond os oedd eisiau parhau i fod yn ddim ond ffrind, byddai’n eu dderbyn a’i rhoi tuag at ganol ei chorff.

​

  • Er mwyn cyfleu bod y berthynas wedi gorffen, neu drosglwyddo neges fyddai’n cyfleu marwolaeth, byddai person yn rhoi tusw o flodau oedd wedi gwywo.

​

Rhaid cofio bod arferion fel hyn yn digwydd mewn nifer o wledydd, gyda’r ystyr a’r

arwyddocâd yn amrywio o wlad i wlad.

 

bottom of page