top of page
a look Large.jpeg

Fy enw yw Llew Tudur, cerfiwr coed o Gymru. Ers 1998, yr wyf wedi seilio fy nghrefft ar y traddodiad Cymreig o wneud llwyau caru, ond gyda thro modern.

​

Mae fy arddull o wneud llwyau caru wedi ei hysbrydoli gan  ‘ffloriograffeg’; iaith ddirgel blodau. Trwy integreiddio’r nodwedd Fictorianaidd hon i mewn i’m llwyau, rwy’n gallu cyfleu negeseuon o gariad sy’n gysylltiedig â llwyau caru traddodiadol a roddwyd yn hanesyddol i gariadon i ddynodi addewidion, natur y teulu, diogelwch a chariad.

​

Rwy’n cerfio fy holl lwyau â llaw a hynny o bren pisgwydd, gan ddefnyddio offer traddodiadol. Mae priodweddau’r pren hwn yn rhoi rhyddid i mi weithio gyda chynlluniau cywrain a chreu manylion cain er mwyn dod â realaeth i‘r blodau. Mae gwead naturiol y pren yn ategu natur botanegol y llwy garu.

 

Rwy’n anelu at warchod traddodiad y llwyau trwy gyflwyno negeseuon blodeuog o gariad, ond er mwyn i’r traddodiad oroesi, rhaid iddo esblygu.

IMG-20230102-WA0004-edit-20230803022708.jpg
IMG_0585.jpg
bottom of page